Ymateb y Llywodraeth: SL(6)730 –Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.) 2026

 

Pwynt Craffu Technegol 1:Mae Llywodraeth Cymru yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am godi’r pwynt hwn ac am ofyn am eglurhad.

Dibynnir ar adran 22(1)(b) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) ar gyfer rheoliad 4. Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i bennu bod darpariaethau mewn deddfwriaeth yn peidio â bod yn delerau sylfaenol. Mae rheoliad 4 yn darparu nad yw adran newydd 54A o Ddeddf 2016, fel y’i mewnosodir gan Ddeddf Hawliau Rhentwyr 2025 (“Deddf 2025”), yn ddarpariaeth sylfaenol sy’n gymwys i gontractau safonol â chymorth.

Dibynnir ar adran 29(1) o Ddeddf 2016 ar gyfer rheoliad 3. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ragnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau. Mae rheoliad 3 yn mewnosod telerau sy’n cyfateb i adrannau newydd 54A a 54B o Ddeddf 2016 (a fewnosodir gan Ddeddf 2025) yn y Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol ar gyfer mathau penodol o gontract meddiannaeth.

Dibynnir ar adran 256(1) o Ddeddf 2016 ar gyfer rheoliadau 3 a 4 i wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â gwahanol fathau o gontract meddiannaeth. Mae adran 256(1)(c) yn galluogi rheoliadau o dan Ddeddf 2016 i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol fathau o gontract meddiannaeth. Mae rheoliad 3 yn mewnosod y telerau sylfaenol newydd mewn rhai mathau o gontractau meddiannaeth, ond nid pob math ohonynt. Mae rheoliad 4 yn darparu nad yw adran newydd 54A yn ddarpariaeth sylfaenol ar gyfer contractau safonol â chymorth.

Dibynnir ar adran 141(1) a (2) o Ddeddf 2025 ar gyfer rheoliadau 3 a 4. Gwneir y rheoliadau o ganlyniad i ddarpariaeth yn Rhan 1 o Ddeddf 2025. Gwneir rheoliad 3 am fod adrannau newydd 54A a 54B yn cael eu mewnosod yn Neddf 2016 (gan Ddeddf 2025) i adlewyrchu bod y darpariaethau hynny’n ffurfio telerau sylfaenol mewn mathau penodol o gontract meddiannaeth. Gwneir rheoliad 4 am fod adran newydd 54A yn cael ei mewnosod yn Neddf 2016 i sicrhau nad yw’n deler sylfaenol mewn contractau safonol â chymorth.